
RIGHT NOW
Gŵyl newydd sy’n dathlu perfformiadau fras gan rhai o’r artistiaid unigol mwyaf cyffroes yng Nghymru.
Yn ystod mis Tachwedd, bydd Le Public Space yn cefnogi pedwar artist unigol i ddatblygu a chreu perfformiadau newydd yn Le Pub.
Bydd pob artist yn derbyn lle i ymarfer, cefnogaeth gyda’r ochr technegol a digidol. Hefyd, bydd cyllid bach yn cael eu rhoi er mwyn creu perfformiad fras terfynnol, gyda’r bwriad i ffrydio’n fyw arlein fel rhan o’r gweithgareddau’r wŷl.
Mewn amser pryd dyw lleoliadau celfyddydau ddim yn cael gweithio’n swyddogol, rydym ni eisiau chwarae rôl mewn amddiffyn ac achub y sector creadigol gan roi cymorth i gwneuthurwr theatr â’r artistiaid lleol, sydd yn barod i archwilio ac esblygu i ffyrdd newydd o weithio.
Mae’r holl broject yma ar gyfer cynnig cymorth i’r artistiaid sydd yn rhoi eu angredd i Le Pub- gan yn y broses helpu ni i greu lleoliad cymunedol ac amlieithrwydd fel y mae, fel arfer.
Ar gyfer pwy?
Dros y misoedd diwethaf rydym ni wedi trafod gyda sawl ymarferwr creadigol, mewn ymgais i gael persbectif ar y safbwynt mae’r dirwedd ddiwylliannol a greadigol yng Nghymru nawr, gan siarad gyda chwmnïau a gweithwyr llawrydd i drio darganfod beth maen nhw angen i alluogi nhw i dal ati a chynnal ei waith yn ystod y pandemic.
Rydym hefyd wedi ystyried beth mae’r gynulleidfa eisiau. Gan ystyried y swm o gynnwys digidol sydd wedi cael eu rhyddhau yn barod o’r lockdown cyntaf, byddwn ni yn cynnig siawns i cynulleidfaoedd wylio’r performiadau fras, gan hefyd rhoi mewnwelediad i sut mae’r celfyddydau yn cael eu creu, a pam mae’n bwysig i ni.
Pryd?
Rydym ni yn dathlu ac yn cynnal pedwar artist unigol.
Bydd pob artist yn cael rhoi’r cyfle creu perfformiad fras, cyn rhannu gyda chynulleidfa ar-lein ym mis Tachwedd.
Bydd pob perfformiad ar gael i wylio ar ein gwefan rhwng Tachwedd y 23ain a’r 28ain.
“Mynegiant brys yw RIGHT NOW. Dyw theatr ddim ar seibiant yn aros i ddigwydd rhywle yn y dyfodol. Mae’n fyw ond methu cael eu mwynhau’n fyw. Mae yma nawr.”
Cofrestrwch ar y digwyddiad isod i dderbyn diweddariadau.
Pam?
Mae’r diwylliant celfyddydau mewn argyfwng. Fel sefydliad cymdeithas budd cymunedol, teimlaf fod cyfrifoldeb gyda ni i roi cymorth i’r sector creadigol yng Nghymru mewn unrhyw ffordd a allwn ni.
Cysylltwch gyda am fwy o fanylion.

Gyda Cefnogaeth Gan
Dirty Protest
Mae pob digwyddiad i wylio am ddim, ond os gallwch plîs ystyried rhoi arian i gefnogi'r artistiaid a Le Pub.
